Hanes y Bydysawd mewn 200 gair neu lai

Tonni cwantwm. Enchwythiad. Ehangiad. Rhyngweithiad niwclear cryf. Difodiad gronyn a gwrthronyn. Cynhyrchiad Deuteriwm a Heliwm. Aflonyddiadau dwysedd. Ailgyfuniad. Pelydriad cyflawn. Cyfyngiad lleol. Ffurfiad clwstwr. Ailioneiddiad. Ymlaciad ffyrnig. Firialeiddiad. Ffurfiad galaethau biasedig? Ymraniad tyrfol. Cyfyngiad. Ioneiddiad. Cywasgiad. Hidrogen didraidd. Ffurfiad sêr anferth. Taniad Deuteriwm. Ymasiad Hidrogen. Disbyddiad Hidrogen. Cyfyngiad craidd. Ehangiad amlennol. Ymasiad Heliwm. Ymasiad Carbon, Ocsigen a Silicon. Cynhyrchiad haearn. Mewnffrwydriad. Ffrwydriad uwchnofa. Chwistrelliad metelau. Ffurfiad sêr. Cyddwysiad. Ymgasgliad rhanblanedol. Gwahaniad planedol. Calediad cramenol. Allyriad nwyon anweddol. Cyddwysiad dŵr. Dadelfeniad dŵr. Cynhyrchiad osôn. Amsugniad uwch-fioled. Organebau ungellog ffotosynthetig. Ocsideiddiad. Cellwyriad. Dewisiad naturiol ac esblygiad. Resbiradaeth. Ymraniad cellol. Atgenhedliad rhywiol. Ffosileiddiad. Archwilio tir. Difodiad dinosoriad. Cynnydd y mamaliaid. Rhewlifiad. Ymddangosiad Homo Sapiens. Dofi anifeiliaid. Cynhyrchiad bwyd dros yr alwad. Gwareiddiad. Syniadau newydd. Fforiaeth. Crefydd. Rhyfela rhwng gwledydd. Cread a dymchweliad ymerodraethau. Fforiaeth. Coloneiddiad. Codi trethu heb gynrychiolaeth. Chwyldro. Cyfansoddiad. Etholiad. Ehangiad. Diwydianeiddio. Gwrthryfel. Rhyddhad. Datganiad. Dyfeisiad. Cynhyrchu torfol. Dinaseiddiad. Mewnlifiad. Rhyfel byd. Urdd y gwledydd. Estyniad yn yr hawl i bleidleisio. Dirwasgiad. Rhyfel byd. Ffrwydriadau ymraniad. Y Cenhedloedd Unedig. Archwilio'r Gofod. Llofruddiaethau. Ymweliadau â'r Lleuad. Ymddiswyddiad. Cyfrifiadureiddiad. Y trefniant fasnach ryngwladol. Terfysgaeth. Ehangiad yr internet. Ailuniad. Diddymiad. Cread y We Fyd Eang. Cyfansoddiad. Allosodiant.

Copyright 1996,1997 by Eric Schulman

Welsh translation by Rhys Morris (Rhys.Morris@astro.cf.ac.uk).

Back to the Universal History Translation Project Page.